Mae Knackered yn ffilm comedi fer yn y Gymraeg am ddwy fenyw ifanc sy’n troi at ddulliau chwerthinllyd er mwyn cuddio corff mawr ar fferm defaid.
Knackered is a short Welsh-language comedy film about two young women who go to ridiculous lengths to hide a dead body on a sheep farm.
Wrth godi ar ôl noson wyllt o bartio a chyffuriau, mae TEIFI a BECA yn darganfod bod eu deliwr wedi marw ar lawr ystafell gwely Teifi. Mae tad Teifi yn cynnal diwrnod o saethu gyda’i gyfeillion y diwrnod hynny, felly mae’r fferm dan i sang gyda dynion busneslyd a’u bysedd sy’n barod i dynnu ar sbardun gwn unrhyw eiliad…
Er mwyn osgoi sylw’r heddlu neu, waeth fyth, cael eu hallgau cymdeithasol gan y gymuned leol, mae’r ddwy ferch yn ceisio datrys y broblem o sut i waredu’r corff… ac yn penderfynu taw’r dewis gorau bydd i wisgo’r corff fel dafad wedi trigo a’i chuddio yn y deadbox er mwyn i’r knackerman ei gymryd i ffwrdd.
TEIFI and BECA wake up after a crazy all-night bender to find that their drug dealer is dead. Teifi’s father is hosting a shooting day, so the whole farm is teeming with nosy men with itchy trigger-fingers…
Fearing the police or, even worse, social exclusion in the village, they try to figure out how to hide the corpse… and decide their best option is to dress the body up as a sheep and smuggle it into the deadbox for the knackerman to take away.
Mae Knackered wedi ei osod ar fferm fach sy’n perthyn i dad Tefi. Buon ni’n digon lwcus i gael gweithio gydag aelodau o’r gymuned leol er mwyn gwireddu byd y ffilm mewn ffordd authentig - mae pob lleoliad sy’n cael ei ddangos yn y ffilm ar ffermydd go iawn wedi eu rhedeg gan deuluoedd lleol yng nghefn gwlad Ceredigion.
Nid cefndir pert yn unig yw tirwedd Ceredigion yn Knackered. Mae perthynas y cymeriadau gyda’r fferm, y gymuned a’r bobl ynddi yn chwarae rôl allweddol yng nghymhelliant y prif gymeriadau a datblygiad y plot.
Knackered is set on a small family farm run by Teifi’s father. We were lucky enough to work with members of the local community to help bring this world to life in an authentic way. The locations shown in the film are all from real working farms in the beautiful valleys of Ceredigion.
This stunning landscape is more than just a backdrop. The characters’ relationship to the farm environment and the other people in it play a key role in their motivations and the development of the plot.
Mae iaith yn holl bwysig i’r ffilm. Roeddwn ni eisiau i’r cymeriadau siarad mewn ffordd oedd yn teimlo’n debyg i fywyd go iawn, gan ddathlu’r cam-dreigliadau, bratiaith a slang sy’n gwneud llais pob siaradwr Cymraeg yn unigryw.
Mae Knackered yn uwcholeuo sut mae’r ‘quirks’ yma wrth siarad Cymraeg ar lafar, mewn cyferbyniad gyda Cymraeg ‘cywir’ neu traddodiadol yn gallu cynnig hiwmor a cymeriad mewn ffordd arloesol, ac i amrywiaeth o gynulleidfeydd, boed nhw’n siaradwyr Cymraeg neu beidio.
Language is so important in this film. We wanted the characters to speak in a way that felt true to life and celebrates all the mis-mutations, bastardisations and borrowed words that personalise every speaker’s voice.
Knackered highlights how the unique quirks of spoken Welsh, in contrast with written or traditionally ‘correct’ Welsh, can offer humour and characterisation in an innovative way and to a wide range of audiences.
Hyd: 7:51
Genre: Comedi dywyll, trosedd
Fformat: Digidol
Cymhareb agwedd: 1.9:1
Iaith: Cymraeg (is-deitlau Saesneg)
Oes diddordeb ganndoch dysgu mwy? E-bostiwch Glyn (d.glyn.o@outlook.com) neu Django (djangopinter@gmail.com)
Duration: 7:51
Genre: Dark comedy, crime
Format: Digital
Aspect ratio: 1.9:1
Language: Welsh (English subtitles)
Want to learn more? Contact Glyn (d.glyn.o@outlook.com) or Django (djangopinter@gmail.com)
Cafodd Knackered eu greu gan tim amrywiol o artistiaid a creuwyr ffilm, gan gynnwys rhai mwy profiadol a nifer sydd yn gynnar yn eu gyrfeydd.
Knackered was made with the help of a brilliant team of emerging and established filmmakers and artists.